Y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol

30 Mehefin 2022

Cyfarfod ar-lein

 

Yn bresennol (cofnodir presenoldeb unigol yn hytrach nag ymlyniad sefydliadol):

Sioned Williams AS, Cadeirydd

Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Simon Hoffman

Charles Whitmore

Karen Morrow

Karyn (?)

Kathy Riddick

Kimberley Mortimer

Lilla Farkas

Louisa Devonish

Matt Dicks

Nicola Evans

Paul Dear

Rhian Davies

Val Astom

Beronika Prikrylova

Vin Simms

Andrew Jenkins

Ana Palazon

Adele Rose-Morgan

Bethan Phillips

Carys Moseley

Catherine Folkes

Ele Hicks

Hannah Harvey

Huw Pritchard

Ioan Bellin

Jackie Jones

Jane Fenton-May

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb ac esboniodd fod y cyfarfod mewn ymateb i gyhoeddiad Bil Hawliau y DU gan Lywodraeth y DU. Croesawodd y Cadeirydd yn arbennig bresenoldeb dau Weinidog o Lywodraeth Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (CC) a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (GCC).

Dywedodd y Cadeirydd fod pryderon sylweddol ynghylch y Bil, gan gynnwys bod Llywodraeth y DU wedi dewis anwybyddu canfyddiadau ei hymgynghoriad ei hun ar ddiwygio Deddf Hawliau Dynol 1998. Mynegodd y Cadeirydd hefyd ei phryderon difrifol bod y Bil yn cynrychioli erydiad amddiffyniad hawliau dynol yn y DU, yn enwedig ochr yn ochr â deddfwriaeth arall a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU (e.e. ar blismona gwrthdystiadau), a bod elfennau o’r Bil yn cynrychioli ymosodiad ar hawliau dynol grwpiau lleiafrifol, mewnfudwyr ac unrhyw un y mae Llywodraeth y DU yn ystyried ei fod yn ‘ddihaeddiant’.

Gofynnodd y Cadeirydd i Charles Whitmore ddarparu crynodeb o'r papur briffio a baratowyd ganddo a Simon Hoffman cyn y cyfarfod. Rhoddodd Charles grynodeb o’r pwyntiau allweddol o'r briff.

Gofynnodd y Cadeirydd i'r CC esbonio barn Llywodraeth Cymru ar y Bil.

I grynhoi: dywedodd y CC nad oedd dim achos dros newid sylweddol i Ddeddf Hawliau Dynol 1998, nac ymwahanu o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol na chyfreitheg Llys Hawliau Dynol Ewrop sy’n datgan mai ‘llys ni yw’r llys cymaint ag unrhyw lys arall’. Aeth y CC ymlaen i ddweud bod Llywodraeth y DU yn tanseilio pwrpas hawliau dynol a rôl Llys Ewrop gan hyrwyddo rôl y Llys Troseddau Rhyngwladol ar yr un pryd. Dywedodd y CC ymhellach fod Llywodraeth y DU yn ceisio tanseilio cyffredinolrwydd hawliau dynol pan fo'n ystyried ei fod yn gyfleus gwneud hynny. Dywedodd y CC, pan fydd angen Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol er mwyn symud y Bil yn ei flaen, na fyddai hyn yn dod gan Lywodraeth Cymru gan na all Cymru gefnogi deddfwriaeth sy’n lleihau amddiffyniad hawliau dynol, nac unrhyw fath o ddeddfwriaeth gefnogol sy’n groes i gyfraith ryngwladol. Dywedodd y CC nad yw Llywodraeth y DU yn hoffi craffu. Aeth ymlaen i awgrymu y bydd angen i Lywodraeth Cymru edrych yn ofalus iawn ar yr hyn y gellir ei wneud yng Nghymru i gadw statws hawliau dynol a chyfreitheg Llys Ewrop yng nghyfraith Cymru.

Gofynnodd y Cadeirydd i'r GCC am ei barn ar y Bil.

I grynhoi: dywedodd y GCC, er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno’r ddeddfwriaeth yn ddigroeso, fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn benderfynol o gyflawni ei pholisi o gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Yn hyn o beth, dywedodd y GCC fod Llywodraeth Cymru'n ceisio symud ymlaen gyda'r argymhellion yn sgil yr ymchwil ar gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol (dan arweiniad Prifysgol Abertawe, gyda Phrifysgol Bangor, Diverse Cymru a Cymru Ifanc). Cadarnhaodd y GCC y bydd Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol yn cael ei sefydlu i fwrw ymlaen â’r argymhellion ymchwil ar ymgorffori hawliau dynol rhyngwladol yng nghyfraith Cymru. Dywedodd y GCC hefyd y byddai canllawiau ar hawliau dynol yn cael eu cyhoeddi ac y byddai hawliau dynol yn cael eu hychwanegu at Asesiad Effaith Integredig Llywodraeth Cymru i sicrhau fframwaith cadarn a gwydn yng Nghymru i amddiffyn dinasyddion Cymru rhag erydiad hawliau dynol o ganlyniad i gamau gweithredu Llywodraeth y DU. Mewn ymateb i gwestiynau cadarnhaodd y GCC fod Llywodraeth Cymru'n gweithredu ar ymrwymiadau blaenorol mewn perthynas â CEDAW, gan gynnwys gweithio ar opsiynau ar gyfer ymgorffori yn ogystal â chynllun gweithredu.

Diolchodd y Cadeirydd i'r CC a’r GCC am eu sylwadau gan wahodd pawb a oedd yn bresennol yn y cyfarfod i drafod y Bil. Arhosodd y CC a’r GCC i wrando ar safbwyntiau rhanddeiliaid.

Yna cafwyd trafodaeth eang ar oblygiadau’r Bil, yr ystyriwyd (heb anghytuno) eu bod (yn gryno) yn ddigroeso, yn ddiangen, yn groes i egwyddorion cyffredinol hawliau dynol, yn ymrannol, yn groes i egwyddorion cyffredinolrwydd hawliau dynol, wedi’u cynllunio i leihau hawliau dynol y rhai yr ystyrir eu bod yn 'ddihaeddiant’, sy'n debygol o arwain at leihad amddiffyniad hawliau dynol i bawb, ac yn groes i'r dull o ymdrin â hawliau dynol a weithredir yng Nghymru. Roedd hefyd yn glir o’r drafodaeth bod y rhai a oedd yn bresennol yn aneglur ynghylch effaith y Bil ar y cynnydd a wnaed eisoes yng Nghymru ar ddiogelu hawliau dynol. Agwedd arbennig sy’n peri pryder yw'r ymagwedd atchweliadol a gymerir tuag at rwymedigaethau cadarnhaol. Nodwyd, mewn sawl maes o gymhwysedd datganoledig fod rhwymedigaethau cadarnhaol yn agwedd arwyddocaol ar wireddu hawliau dynol.

Cododd nifer o’r rhai a oedd yn bresennol bwyntiau penodol ynghylch sut i ymateb i’r Bil:

Mynegwyd y pwynt fod llywodraeth y DU yn benderfynol o wthio trwy ei chynnig ac efallai ei fod yn ddibwrpas ceisio cymryd rhan mewn unrhyw broses sy’n ceisio dod â rhywfaint o resymoldeb i'r Bil Hawliau drafft. Awgrymwyd y gallai fod yn fwy effeithiol canolbwyntio ar fecanweithiau ar gyfer trosoledd gwleidyddol gan gynnwys:

·         Yr UE o ystyried y pwyslais a roddir gan yr UE ar gydymffurfiaeth y DU â hawliau dynol fel agwedd ar y berthynas barhaus rhwng yr UE a’r DU.

·         Comisiynydd Hawliau Dynol Cyngor Ewrop sy’n ymweld â’r DU ar hyn o bryd ac sydd wedi cynnig cyfarfod ar ôl yr ymweliad gyda rhanddeiliaid cymdeithas sifil.

·         Trwy fecanweithiau adrodd plaid y wladwriaeth mewn perthynas â chytuniadau hawliau dynol unigol.

Nododd y rhai oedd yn bresennol bwysigrwydd manteisio ar bob cyfle i achosi embaras i Lywodraeth y DU ym maes cysylltiadau rhyngwladol drwy ei gwneud hi’n glir bod ei pholisïau yn atchweliadol ar hawliau dynol.

Bu'r mynychwyr hefyd yn trafod yr angen i wrthsefyll ymgais Llywodraeth y DU i apelio at y bobl drwy esbonio’r canlyniadau i unigolion a chymunedau o ganlyniad i ymagwedd atchweliadol Llywodraeth y DU at hawliau dynol i’r cyhoedd yn gyffredinol.

Nododd y rhai oedd yn bresennol hefyd bwysigrwydd tynnu sylw at unrhyw gyfle y mae Llywodraeth y DU yn ceisio manteisio arno i ddatgymalu amddiffyniadau hawliau dynol y mae wedi ceisio dibynnu arnynt i osgoi beirniadaeth o'i pholisïau mewn meysydd eraill, er enghraifft, mewn perthynas â throsi gwyliadwriaeth a gwaith y gwasanaethau cudd-wybodaeth. Nodwyd hefyd bod rhywfaint o afresymoldeb yn y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ymdrin â hawliau dynol rhyngwladol a hawliau dynol yn y DU, er enghraifft, mae Llywodraeth y DU wedi cefnogi (gyda rhai amheuon) Confensiwn Istanbwl sy’n helpu i amddiffyn menywod rhag trais fel hawl dynol mewn cyfraith ryngwladol, ond mae'n ceisio tynnu amddiffyniadau y Ddeddf Hawliau Dynol oddi wrth ddinasyddion ar lefel ddomestig.